Annwyl Gyfaill
Hoffwn I chi ystyried fy ymateb I’r bil uchod.
Mae gennyf bryderon am
· Effaith carafannau gwyliau meddianaeth trwy’r flwyddyn ar:
o Wasanaethau lleol
o Cymunedau gwledig bregus eu heconomi
o Yr iaith Gymraeg
o Allu pobl leol I fforddio tai yn lleol oherwydd pwysau mewnfudo
o Allu llywodraeth leol I fonitro a gweithredu ar gam ddefnyddio yn sgil toriadau
o Hawliau I feddianaeth byw mewn ardal a hawliau trethdalwyr am wasanaethau iechyd ac ati
o Digartrefedd yn gorfodi hawl I gael ty.
· Effaith carafannau gwyliau I gartrefu pobl lleol sydd am gartrefi fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig lle nad oes stoc tai fforddiadwy a stoc tai addas ar gael.
o Rhaid rhoi cyfle I unigolion a thrigolion lleol gael cyfle I fyw mewn carafannau trwy’r flwyddyn lle nad oes cyfle I gael mynediad I stoc tai lleol fforddiadwy
o Dylai LLC a chynghorau lleol glustnodi safleoedd carafannau ar gyfer pobl leol sydd ddim yn gallu cael tai oherwydd diffyg stoc, fforddiadwyedd a lleoliad tai addas yn lleol mewn ardaloedd lle nad oes cyfle I adeiladu tai fforddiadwy na defnyddio tai gwag I’r pwrpas.
· Dylai’r bil ystyried profi gwledig a’r Iaith Gymraeg fel sail cychwynnol I sicrhau bod modd deddfu ar y pwnc yma. Heb wneud yr ymarfewriad hyn ni fydd modd sicrhau dyfodol I gymunedau gwledig cynaliadwy lle mae’r Gymraeg yn gallu ffynnu.
Diolch I chi am eich sylw
Yn gywir
Arfon Hughes
Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd
Ty Abermawddach
4 Stryd Fawr
Blaenau ffestiniog
LL41 3AD